ffidil iwcalil ffidil ffliwtiau gîtar

Mae Teulu yn rhywbeth o eitem deuluol gyda Sioned Northeast (ffliwt, gitâr, iwcalili, llais a chlocsio), Eleri Northeast (ffliwt, ffidil, llais a chlocsio), Gary Northeast (acordion botymau, harmonica, gitâr a llais), ac Emma Lincoln (ffidl, iwcalili, llais a chlocsio).clocsiau cymraeg

Mae Teulu yn chwarae cymysgedd egniol o ganeuon ac alawon traddodiadol Cymreig a rhai wedi eu cyfansoddi; caneuon gyda harmonïau swynol a setiau clocsio bywiog. Dyma'r alawon, caneuon , a dawnsiau mae 'r aelodau mwy ifanc o'r grŵp wedi tyfu i fyny efo, ac mae eu cariad o'r cerddoriaeth yn amlwg ym mherfformiadau'r band.

Mae'r band wedi bod yn perfformio am fwy na tair o flynyddoedd, ac yn dod yn fwy poblogaidd wrthi fwy o bobl clywed amdanynt. Dechreuon nhw fel perfformwyr  cyson yn eu ardal lleol o Sir Drefaldwyn, ond nawr hefyd yn cael eu gweld mewn digwyddiadau ymhellach i ffwrdd.

Roedd y grŵp yn y stiwdio rhwng Chwefror a Mehefin yn 2017, lle recordion nhw eu CD cyntaf, Cwynion ac Ysbrydion. Mae'r CD nawr ar werth am £10 ac ar gael yn gigiau neu trwy gysylltu â Teulu.