30ain Mawrth

Mae gennym ni rwan ein CD “Cwynion ac Ysbrydion” ar gael ein tudalen Bandcamp. Rydych chi'n gallu gwrando ar y CD cyfan yn ogystal a phrynu traciau penodol neu'r albwm cyfan fel lawrlwythiadau digidol. Rydych chi hefyd yn gallu prynu copi ffisegol o'r CD o'r tudalen. Plis ewch i wrando ar ein CD cyntaf ac efallai prynwch copi!

Chwefror 26ain

hirnant

Mae Teulu wedi cael blwyddyn prysur iawn efo llawer o gyngherddau dros Powys, Gwynedd, a Shropshire. Ryden ni hefyd wedi treulio amser yn y stiwdio ac ryden i nawr efo CD "Cwynion ac Ysbrydion" sydd yn gwerthu'n dda. Gallwch glywed sampl o rai o'r traciau wrth fynd i'r tudalen cerddoriaeth.

Ryden ni wedi cael sawl gig hyfryd yn ddiweddar. Yn gyntaf yn 3 Diferyn yn Llanfair Caereinion, fel rhan o Gŵyl Gwion Bach ar Ionawr 27ain. Diolch i Ruth yn 3 Diferyn am roi lle i ni chwarae, ac hefyd i Bryn a Rhian Davies am drefnu ddigwyddiad bendigedig a gofyn i ni chwarae. Mi roedd hi'n dda gweld Dylan Penri eto yn y gig - Dylan wnaeth yr holl waith recordio ar ein CD.

Neithiwr, Chwefror 24ain, cafon ni chwarae yn St Illog yn Hirnant o'r diwedd. Cafon ni ein gofyn y tro cyntaf i chwarae yna dros flwyddyn yn ôl felly roedd hi'n dda i berfformio yna i gynulleidfa werthfawrogol iawn. Diolch i Nicola Bradley am drefnu'r noson ac am ofyn i ni chwarae, ac hefyd i'r bobl a wnaeth yr holl goginio a bwydo ni efo bwyd arbennig.

Mae gan Teulu nifer o ddigwyddiadau yn dod i fyny yn ystod y blwyddyn ac wrth i ni gael cadarnhad o ddyddiadau ac amseroedd bydden no'n rhoi'r manylion fan hyn.

Medi 29ain

Ar ôl amser straenus iawn oherwydd y cwmni negesydd, a gwasanaeth cwsmeriaid gwych a sylw at fanylion gan y cwmni dyblygu CDs, Promodiscs, mae gennyn ni ein CDs. roedden ni wedi eu derbyn yng Ngorffennaf ac wedi gwerthu'n gyson ers hynny. Ryden ni wedi cael nifer o gigiau ers hynny ac fel y gwelwch o'r list isod mae mwy i ddod.

Bydd Hydref 7fed yn ddiwrnod prysur; byddwn yn chwarae yn y Blackberry Fair yn Whitchurch, Shropshire yn ystod y bore ac yna, ar ôl rhuthro draw i Fala, Gwynedd, perfformiad yn Ffair Bwyd a Gwerin Gorwelion yn y nos.

Gallwch weld y dyddiadau ar gyfer yr hydref ymlaen isod.

Dyddiadau:

 

2017
8fed o Orffennaf - digwyddiad Barddoniaeth a Cherddoriaeth Tŷ Cwrdd Crynwyr Dolobran. 
22ain o Orffennaf - Sesiwn Fawr Dolgellau, Prif Llwyfan yn y prynhawn.
28ain o Awst - Sioe Llanfechain.
17eg o Hydref - Y Dolydd, Llanfyllin.
7fed o Hydref - The Blackberry Fair, Whitchurch, Shropshire. 10am - 1.30pm
7fed o Hydref - Gwerin Gorwelion Bala. 7pm.
4ydd o Dachwedd - Capel Hermon, Croesoswallt.
25ain o Dachwedd - Ffair Gaeaf a troi ymlaen y goleuadau Nadolig yn Whitchurch.

2018
27ain o Ionawr - Tri Diferyn, Llanfair Caereinion SY21 0RY.
24ain o Chwefror - Canolfan Gymuned St Illog, Hirnant, Penybontfawr, SY10 0HR.